Dyma enghraifft dda o'r posibiliadau sydd ar gael i addasu tŷ cyffredin i weddu chwaeth fwy modern. Roedd y perchennog am i ni wella cynllun a creu estyniad i gyfuno cegin fwy ag ystafell fwyta newydd. Fel canlyniad mae'r cynllun wedi symleiddio'r trefn mewnol ag agor y tŷ allan i'r ardd.
Mae'r estyniad yn agor i fynnu ag ychwanegu at y gegin bresennol; cynhwysir dwy wal o ddrysau gwydr sy'n plygu ôl fel consertina ar ddiwrnod braf. Yn ogystal, estynnwyd allan o ochor y tŷ i wneud lle i ystafell ymolchi, cegin fach a storfa newydd.
Roedd y perchnogion yn awyddus i ganiatáu mwy o olau dydd i fewn i'w cartref; i wneud hyn fel osodwyd pedair ffenestr yn y nenfwd uwchben yr ystafell fawr newydd. Mae'r ystafell yma hefyd yn cysylltu y tŷ a gweddill yr estyniad ac yn galluogi golau dydd i dreiddio drwy'r tŷ.

