thai house 1 thai house 2 thai house 3
Tu ôl i ffasâd Sioraidd Cilgant Guildford y mae un o hoff dai bwyta Caerdydd. Mae’r Thai House yn cynnwys sawl adeilad sy’n rhan o hen deras sydd bellach yn ffurfio casgliad difyr o ystafelloedd ar wahanol lefelau.

 

Y cyfarwyddyd ar gyfer y prosiect adnewyddu yma oedd moderneiddio’r tŷ bwyta tra’n cadw awyrgylch boblogaidd a dylanwad Tai y tu mewn presennol.

 

Tra’n ymwrthod â newidiadau ar raddfa eang y dull oedd i ganolbwyntio ar aildrefnu gosodion penodol a chyflwyno dewis dethol o liwiau a gweoedd ac yna amlygu y rhain drwy wella’r system oleuo.

 

Mae ystafell ychwanegol oedd prin yn cael eu defnyddio bellach yn fan cyfarfod poblogaidd ar gyfer partïon preifat.